Digartrefedd yng Nghymru'n Gwaethygu

10 August 2017, 09:30

homeless man

Adroddir bod lefelau digartrefedd yng Nghymru am waethygu'n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf.

Mae Crisis yn dweud bod 5,100 o gartrefi yng Ngymru yn dioddef o'r fath gwaethaf o ddigartrefedd, gyda niferoedd yng Nghymru yn disgwyl cynyddu cymaint a thraean yn y pum mlynedd nesaf oni bai mae Llywodraethau Cymru a San Steffan yn datblygu cynlluniau hir-dymor i daclo'r broblem.

Mae adroddiad newydd yn dangos ei fod hi'n debyg ar unrhyw adeg yng Nghymru yn 2016:

-Roedd 300 o bobl y cysgu ar y strydoedd.

-Roedd 900 o deuluoedd yn byw mewn lletyau.

-Roedd 3,100 o deuluoedd yn cysgu ar soffas pobl erill ("sofa surfing").

Mae Prif-Weithredwr Crisis, Jon Sparkes, yn dweud:

"Er lles y pethau sy'n digwydd ym mywydau pobl, ni dylai neb gorfod dod yn wyneb i wyneb hefo digartrefedd. Mae llwyth o atebion ar gael a ryden ni'n bwriadu darganfod pob un a'u gwireddu."