Cyfarfod Brexit yng Nghaerdydd
Mae Prif Wenidog Cymru unwaith eto yn galw ar Brydain i gadw'i fynediad i'r farchnad sengl unwaith dan ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Carwyn Jones yn cynnal cyfarfod mawr bore 'ma yng Nghaerdyddi drafod Brexit hefo aelodau'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.
Mae Mr. Jones yn dweud mae hi’n bwysicach nag erioed i gadw ein mynediad i’r farchand sengl gyda Arlywyddiaeth Donald Trump rownd y gornel.
“Mae’r byd yn newid ac mae hi’n amser hynod aflonydd,” meddai’r Prif Wenidog.
“Ond mae’r ffocws ar gadw mynediad Prydain i’r farchnad sengl yn hollbwysig.”
“Heddiw, mi fyddai i unwaith eto yn galw ar Lywodraeth San Steffan i wneud hyn eu blaenoriaeth o flaenllaw trafodaeth Brexit.”
Bydd Mr. Jones yn cwrdd â Phrif Wenidog yr Alban, Nicola Sturgeon, Prif Wenidog Gogledd Iwerddon, Arlene Foster, ac hefyd blaenaf Gweriniaeth Iwerddon, y Taoiseach Enda Kenny.