Croesawu Cynlluniau Parc Hamdden

17 May 2018, 17:25

Bluestone Plans for Anglesey

Mae Arweinydd y Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, wedi croesawu cynlluniau ar gyfer cyrchfan gwyliau newydd.
 
Ddoe, datgelodd Bluestone eu bod wedi dod i gytundeb gyda'r cwmni datblygu eiddo Land and Lakes ar gyfer 200 acer o dir ar Stad Penrhos ger Caergybi.
 
Gan ddweud y bydd yn denu miloedd o ymwelwyr i Ogledd Cymru ac yn creu 1,500 o swyddi newydd (600 yn ystod y cyfnod adeiladu a 900 o swyddi i staff gweithredol).
 
Yn ôl Llinos Medi:
 
'Dyma newyddion rhagorol i Gaergybi ac Ynys Môn.
 
Mae Bluestone eisoes yn enw mawr sy'n cael ei barchu yn y diwydiant hamdden a byddai dod a nhw i'r Ynys yn gam hynod o gadarnhaol o ran buddsoddiad, swyddi a'r gadwyn gyflenwi.'