Carchar Newydd yn Ne Cymru

Prison

Mae gwleidyddion yng Nghymru wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu carchar newydd ym Mhorth Talbot, ond gan ddweud bod rhaid cysidro aelodau'r cyhoedd sy'n byw yn ymyl y safle.

Cafodd safleoedd ym Mhorth Talbot, Swydd Efrog, Manceinion Fwyaf a Chaint eu cysidro ar gyfer datblygiadau fel rhan o awydd i greu miloedd o lefydd i garcharau erbyn 2020.

Mae'r cyhoeddiad y cam diweddaraf mewn ailwampiad o'r estad gwerth £1.3bn cafodd ei lansio gan y cyn-Ysgrifennydd Cyfiawnder, Michael Gove.

Mae'r AS i Aberafon, Stephen Kinnock, yn dweud:

"Bydd datblygu carchar newydd ym Mhorth Talbot yn creu llwyth o swyddi yn yr ardal lleol gan gynnwys adeiladu a rheoli'r garchar o ddydd i ddydd.

Cychwynodd y moderneiddiad o garcharau ym Mhrydain eleni gyda agoriad Carchar y Berwyn yn Wrecsam, sy'n gallu cadw 2,000 o garcharorion.