Blwyddyn Cynta'r System Rhoi Organau

Organ Donation

Mae Prif Wenidog Cymru, Carwyn Jones, yn dweud ei fod hynod falch hefo’r gyfraith newydd ar roi organau, deuddeg mis wedi iddo gael ei gyflwyno.

Mae’r system yn golygu bod pawb yng Nghymru ar y rhestr i roi organau oni bai maen nhw’n dewis peidio.

Mae Cymru gwlad cynta’r DU i gyflwyno’r system.

Yn ol ffigyrau gan Lywodraeth Cymru, cafodd 39 o organau eu trawsblannu oherwydd y system newydd.

“Mae rhoi organ yn esiampl anferth o haelfrydedd ac oherwydd y pholisi newydd, mae mwy o organau nag erioed ar gael i bobl mewn angen,” meddai’r Prif Wenidog.

“Mae’r pobl yng Nghymru sy’n rhoi organau yn cynnig yr anrheg o fywyd gwell.”

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd i Gymru, Vaughan Gething, yn dweud:

“Yn y deuddeg mis diwethaf, gwelid cynnydd yn y nifer o fywydau yng Nghymru sydd wedi cael eu gwella neu’u hachub gan drawsblaniad, sef newyddion da.

Mae’r ffigyrau diweddaraf ar gyfer cydsyniad tybiedig yng Nghymru yn obeithiol.”