Argyfwng Recriwtio Doctoriaid yng Nghymru

Doctor Generic

Mae adroddiad newydd gan y Coleg Brenhinol i Feddygon yn awgrymu sut i daclo problemau recriwitio disgybl-feddygon.

Yn ol ffigyrau, gwelid bylchau recriwtio sylweddol ledled Cymru, gyda 74 safle gwag yn ysbytai mwya’r genedl mis Awst 2016 gan gynnwys 6 yn Ysbyty Gwynedd.

Honnir bod 40% o feddygon yn credu bod hyn yn effeithio diogelwch cleifion o ganlyniad.

Honnir hefyd bod y bylchau’n rhoi mwy o bwysau ar aelodau staff.

Mae’r coleg yn dweud bod lefelau moral are u isaf, gyda dim ond 10% o ddisgybl-feddygon yn dweud eu bod nhw’n mwynau’u swyddi.

Mae Dr. Alun Rees o’r CBF ac yn dweud bod yr argyfwng yn gwaethygu:

“Y llynedd, doedden ni methu llenwi 40% o’r fylchau ar gyfer meddygon ymgynghorol yng Nghymru.”

“Nid oes digon o ddisgyblion-meddygon chwaith, felly mae rhaid canolbwyntio ar recriwtio disgyblion Cymraeg, eu hyfforddi yng Nghymru, ac wedyn eu perswadio i aros yng Nghymru.”