£800,000 i Wella Sgiliau Mathemateg

A level exams

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod £800,000 am gael eu gwario i wella safonau mathemateg mewn ysgolion a cholegau.

Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yn dweud bydd disgyblion ac athrawon yn elwa o’r buddsoddiad.

“Addysg yw ein prif targed. Bydd cydweithio yn sicrhau cyfleodd i bob person ifanc cyflawni’u potensial. Mae rhaid gweithio gyda’n gilydd i wella safonau ac uchelgeisiau disgyblion, rhieni, ac athrawon.”

“Mae safonau uchel ym mathemateg yn hanfodol i helpu lleihau’r fwlch o gyrhaeddiad a sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru hefo’r cyfle i lwyddo.”

Bydd y cynllun newydd yn cynnwys…

 

•Mwy o gefnogaeth i ddatblygu arweinyddiaeth ym mathemateg ac helpu ysgolion i gydweithio er budd safonau uwch.

•Cefnogaeth i athrawon, isathrawon a llefaryddion addysg uwch. 

•Cynlluniau datblygu proffesiynol i helpu staff gwella sgiliau mathemateg eu hunain, yn ogystal a’u sgiliau dysgu.

 

Mae Tim Pratt o Gymdeithas Arweinyddion Ysgolion a Cholegau Cymru yn dweud:

“Ryden ni’n croesawu’r cynllun newydd, ond mae hi hefyd yn bwysig i Lywodraeth Cymru delio hefo’r broblem o gyflenwadau i athrawon i wneud yn siwr bod ysgolion yn gallu recriwtio’r athrawon mathemateg gorau sydd ar gael.”